RhYC De Cymru

Rhaglen Ymyrraeth Mewn Cyffuriau

DIP Wales
Welsh Assembley Government

Beth yw'r Rhaglen Ymyrraeth mewn cyffuriau?

Mae'r rhaglen ymyrraeth mewn cyffuriau (DIP), a adnabuwyd gynt yn CJIP, neu'r

rhaglen sy'n ymdrin â chyfiawnder troseddol, yn rhan fawr o strategaeth llywodraeth y DU i leihau troseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'i niwed cysylltiedig i gymunedau ac unigolion sy'n defnyddio cyffuriau'n anghyfreithlon.

Ei brif nod yw lleihau troseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ymddygiad troseddol a dedfrydau troseddol canlynol drwy ymyrryd ar bob cam o'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol er mwyn annog troseddwyr i dderbyn triniaeth yn gysylltiedig â chyffuriau

Er mwyn gwneud hyn, mae hi wedi adeiladu ar yr ymyriadau gorau ar gael er mwyn creu dull cyfun sy'n rhoi'r cyfle i gyfathrebu ag unigolyn mewn modd priodol a pharhaus wrth iddo gael ei arestio, dan gyhuddiad, yn y llys, yn ystod ac wrth orffen dedfrydau cymunedol ac mewn carchar neu oruchwyliaeth statudol yn y gymuned ac wrth adael amgylcheddau triniaeth strwythuredig

Yng Nghymru mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio'n agos â'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod pob elfen o'r rhaglen DIP - profi am gyffuriau wrth ddedfrydu/arestio, cyfeirio pobl sydd wedi cael eu arestio, tîmau cyfiawnder troseddol cyfun - wedi'u integreiddio'n llawn i mewn i sefydliad cyffuriau cyfiawnder troseddol diwnïad. Aeth DIP 'yn fyw' yn Ne Cymru ym mis Mawrth 2006, gyda'r Tîmau Cyfiawnder Troseddol Cyfun (CJITs) yn derbyn pobl sydd wedi cael eu cyfeirio o lwybrau cydnabyddedig megis y gwasanaeth prawf cenedlaethol, tîmau gwasanaeth CARAT Carchardai ei Mawrhydi, llysoedd, switiau gwarchodaeth yr heddlu a darparwyr cyfiawnder troseddol a thriniaeth eraill yn lleol. Gall unigolion gyfeirio eu hunain i'r cynllun os oes gyda nhw gysylltiad y gallant ddangos i'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol neu os ydynt yn gadael rhaglen gofal dydd strwythuredig.

Mae llinell gyswllt 24 awr ar gael 7 diwrnod yr wythnos i ddarparu cymorth a chyngor dwyieithog i ddefnyddwyr cyffuriau yn y Gymraeg a'r Saesneg 0800 6335588

WIRED - gwasanaethau ar gyfer teuluoedd a gofalwyr bobol sydd a problem camdrin cyfuriau

Mae pedwar rhanbarth DIP yng Nghymru:

(Ceir map yn amlinellu'r ardaloedd hyn yn adran cyflawni'r safwe hwn)

Mae DIP De Cymru yn cynnwys yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol :

Mae'n ardal o boblogaeth niferus â phoblogaeth amrywiol a chynyddol. Mae 50% o boblogaeth Cymru yn byw tu mewn ei ffiniau daearyddol.

Os ydych chi eisiau gwybodaeth mewn iaith wahanol i Gymraeg neu Saesneg wnewch chi gysylltu â'r tîm DIP rhanbarthol drwy e-bostio DIP@cardiff.gov.uk a byddwn ni'n ceisio sicrhau eich bod chi'n derbyn gwybodaeth briodol i gwrdd â'ch anghenion.